Amdanom Ni

Sefydlwyd Canolfan Arwerthiant Bryncir ym mis Tachwedd 2001, ac mae’n un o’r cwmnïau arwerthu ieuengaf yn y wlad.
Ond mae gan safle Mart Bryncir yng Ngogledd Cymru draddodiad hir o arwerthiannau da byw amaethyddol a thir ac eiddo, oherwydd cynhaliwyd yr arwerthiant da byw cyntaf ar y safle ar 19 Mawrth 1920.

Bu’r mart ar gau dros dro ar ôl clwy’r traed a’r genau yn 2001. Ond ysgogodd hyn y gymuned amaethyddol leol i weithredu, a gyda chyfarwyddyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, crëwyd Canolfan Arwerthiant Bryncir gyda’r bwriad o brynu’r safle gwreiddiol a chynhaliwyd yr arwerthiant cyntaf ar 4 Mawrth 2002.

Yr Arwerthwyr a gyflogir i weithredu Canolfan Arwerthiant Bryncir yw Lloyd Williams & Hughes, sydd hefyd wedi’u lleoli ym Mryncir.

Mae gan y Cyfarwyddwyr Mr John Huw Hughes a Mr John Lloyd Williams brofiad helaeth a gwerthfawr iawn ac fe’u cefnogir gan Mr Iolo Ellis.

Gall Bryncir a’r ardal o’i gwmpas, sy’n cynnwys Gwynedd, Ynys Môn a rhannau o Feirionnydd, ymffrostio yn safon y stoc sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn. Daw mwyafrif y gwartheg o fuchesi magu enwog o fridiau Charolais a Limousin yn bennaf.

Daw’r ŵyn tew o ystod o ardaloedd gwahanol, sy’n ymestyn o ardal gynnar Pen Llŷn i fynyddoedd Eryri, gan roi cyflenwad cyson o stoc drwy gydol y flwyddyn.

imageJOHN HUW HUGHES
CYFARWYDDWR / RHEOLWR ARIANNOL

Fel Arwerthwr Da Byw arbenigol, mae’n delio â phob math o dda byw, ond yn bennaf â gwartheg, ynghyd ag arwerthiannau Fferm a Pheiriannau. Mae John hefyd yn arwain ein portffolio Gosod Tir.

Ffôn: 07780 705 836


imageJOHN LLOYD WILLIAMS, MRICS CAAV MRAC
CYFARWYDDWR
Ers cymhwyso fel Syrfëwr Siartredig yn 1990 a dod yn aelod o Gymdeithas Ganolog Priswyr Amaethyddol, mae John wedi arbenigo mewn gwaith proffesiynol gwledig gan gynnig ystod eang o wasanaethau sy’n cynnwys Prisio, Iawndal a Gwerthu eiddo preswyl a thir. Mae hefyd yn Arwerthwr Da Byw ac mae ei ddyletswyddau’n ymwneud yn bennaf â Gwartheg Stôr a Buchod Magu.

Ffôn: 07780 705 837


imageIOLO ELLIS
ARWERTHWR DA BYW (DEFAID)
Ers ymuno â’r cwmni yn 2002, mae Iolo wedi hen sefydlu ei hun fel pennaeth yr adran ddefaid tew a stôr. Fel mab fferm, mae ganddo’r wybodaeth ymarferol angenrheidiol i roi cyngor gwybodus ar y farchnad. Yn ogystal â’r dyletswyddau Arwerthu, mae Iolo hefyd yn delio â’r Cynllun Taliad Sylfaenol, Gosod Tir a Cheisiadau am Iawndal gan Dŵr Cymru.

Ffôn: 07747 620 082


imageIONA LLOYD ROBERTS
RHEOLWR SWYDDFA
Ymunodd Iona â Chanolfan Arwerthiant Bryncir yn 2002. Mae ganddi brofiad helaeth gan ei bod wedi bod yn rhan o bob agwedd o waith Arwerthu dros y blynyddoedd.

Ffôn: 07719 067 463


imageRHIAN JONES HUGHES
GORUCHWYLIWR SWYDDFA
Ymunodd Rhian â Chanolfan Arwerthiant Bryncir yn 2004 ac mae wedi sefydlu ei hun fel cyswllt â’r gymuned amaethyddol gyda’i dyletswyddau bob dydd wrth redeg y farchnad.

Ffôn: 07769 919 821

 

Manylion Cyswllt

Canolfan Farchnad Bryncir Ltd 
Bryncir
Garndolbenmaen
Gwynedd
LL51 9LX

[f] 01766 530828
[f] 01766 530829
[e] rhian@lwhbryncir.co.uk

 

Bookmark and Share

Fideo

Calendr